Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
22 Mawrth 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12659
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.28.
3 Datganiad gan Weinidog yr Economi: Bwrw Ymlaen â’r Genhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi
Dechreuodd yr eitem am 14.43.
4 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Safonau ac Uchelgeisiau Uchel i Bawb
Dechreuodd yr eitem am 15.16.
5 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Ddeddf Plant (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 15.48.
6 Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bwrw ymlaen ag argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ac adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar dribiwnlysoedd Cymru - GOHIRIWYD
Derbyniwyd y cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 7 ac 8 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân. (15 munud)
7 Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022
Dechreuodd yr eitem am 16.16
NDM7958 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mawrth 2022.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Gorchymyn Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (Awdurdod Ychwanegol) (Cymru) 2022
Dechreuodd yr eitem am 16.16
NDM7960 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (Awdurdod Ychwanegol) (Cymru) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mawrth 2022.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022
Dechreuodd yr eitem am 16.23
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7959 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mawrth 2022.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
13 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 16.56 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
10 Cyfnod pleidleisio
Crynodeb o Bleidleisiau
Daeth y cyfarfod i ben am 16.56
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 23 Mawrth 2022